Alien Armada
Argymhellwyd gan Jacob
Mae llu o Robotiaid yn amddiffyn y Ddaear rhag ymosodwyr milain. Ar ol dinistrio'r robotiaid gadewir chi i ymladd yr ymosodwyr a dinistrio yr Alien Boss.
Dune Buggy
Argymhellwyd gan Peter
Dangoswch eich sgiliau yn gyrru byji twyni dros dir bryniog a chaled ond gwyliwch rhag crashio a llosgi!
Heroes
Mae Sarah ym Mhrestatyn yn argymell gemau 'Heroes' ar wefan y BBC. Meddai hi 'They are good 'cos they test your brain'.
Joust
Beth fyddech yn ei wneud wrth ymladd yn yr oesoedd canol. Gwisgwch eich arfau ac ewch ar eich ceffyl a dangoswch pa mor dda ydych chi!! (o Ulster Folk and Transport Museum)
Ar CBBC Smile medrwch chwarae: Quick on the draw, Bear Pairs, Bath the Bear, Play Bandit Bites, Play Bumball, Play Aquapigs, Nev vs Bouncer Bor, Drop da Beatz, Nev it up and Nev’s Socks, ond fy hoff gêm yw Nevs Jambuster. Medrwch hefyd ei gael yn Eastenders.
Patricia, Y Rhyl
Councillor Quest 2
Cyfle i fod yn Gynghorydd rhithwir am y diwrnod a defnyddio eich sgiliau gwneud penderfyniadau.
Meeow!
Defnyddiwch eich llygoden i achub cath! Mae’n bwrw cathod. Symudwch y fatras i arbed y cathod rhag glanio yn un swp ar y llawr.
Yma un gan Scottish Water, RoboPoop!
Defnyddiwch y cyrchallweddau i lywio Robopoop, os ydych yn gyrru i mewn i waliau, mwd neu sbwriel, fe fydd Robopoop yn cael niwed. Defnyddiwch yr allweddfwlch i weithio'r canon dŵr a chlirio'r sbwriel allan o'r ffordd. Eich sialens y'w i glirio cymaint o sbwriel a phosib!
Ofn – Saethwr Ysbrydion – o wefan Planed Plant S4C
Ceisiwch gael gwared o’r ysbrydion drwy ddefnyddio’r bysellfwrdd a’r bar gwagle, ond mae’n rhaid i chi fod yn gyflym, dydy’r un yma ddim yn hawdd.
